Cwmni angladdol annibynnol sy'n cael ei redeg gan deulu lleol ydym ni. Cafodd y fusnes ei sefydlu yn 1953. Gyda dros 70 mlynedd o brofiad yn gofalu am y gymuned felly, rydym yn cynnig arbenigedd sy'n ffrwyth cenedlaethau o brofiad. Yn y cyfnod anodd hwn, rydym yma i gynnig cysur, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol trwy bob cam.
Mae Gwilym C. Price ei Fab a'i Ferched yn fusnes deuluol. Cafodd ei sefydlu dros 70 mlynedd yn ôl gan Gwilym Clifford Price a'i wraig, Phyllis. Mae'r fusnes bellach yng ngofal y mab, Cerdin; y ferch, Angharad; a'r ŵyr, Rhys.
Rydym yma i’ch arwain trwy bob cam. Mi wnawn ni eich cynghori am yr holl opsiynau sydd ar gael, gan gydweithio’n agos gyda chi wedyn i drefnu angladd a fydd yn ateb eich anghenion – boed hwnnw’n angladd syml neu gymhleth.
Yn ein canolfan angladdol yn Llanbedr Pont Steffan, rydym yn falch o fedru cynnig y cyfleusterau mwyaf modern, sy’n cynnwys darpariadau llawn i’r anabl. O’r fan hon, medrwn gynnig nifer o wasanaethau – o drefnu’r angladd i ddarparu ystafelloedd ymweld.

Ein teulu'n gofalu am eich teulu
Gwilym C. Price ei Fab a’i Ferched, Cartref Angladdol Y Gorwel, 32 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7DY
01570 422673