Ym mhob agwedd o'n gwaith, ymdrechwn i gynnig y gwasanaethau gorau posibl, gyda phris teg, gan ymlynu at ddymuniadau'ch hanwyliaid.
Croesawir adroddiad y CMA. Er hynny, mae'r rhestr prisiau Safonedig yn gymysglyd, a thrwy'r wlad, ymddengys fod gan ddarparwyr nifer o elfennau gwahanol yn gynwysiedig neu wedi'u hatal o'u cynigion. Gan hynny, rydym wedi crynhoi'r rhestr wirio ganlynol, gan ddangos yr hyn y darparwn o fewn yr angladd a fynychir, gan gynghori teuluoedd sy'n dymuno cymharu costau angladdol, ac egluro'r hyn sy'n gynwysiedig yn rhestr prisiau'r darparwyr eraill, cyn penderfynu'n derfynol.
Gan eich sicrhau y cewch y sylw personol gorau a gwasanaeth a chyfleusterau digymar, bob amser.
ANGLADD A FYNYCHIR (costau'r ymgymerwr angladdau yn unig).
| Dyma angladd lle cynhelir seremoni, digwyddiad neu wasanaeth ar gyfer teulu a ffrindiau er cof am yr ymadawedig wrth iddynt hefyd fynychu claddiad neu amlosgiad. | £2275 |
| Cymryd gofal o'r holl drefniadau cyfreithiol a gweinyddol angenrheidiol | £995 |
| Casglu a chludo'r ymadawedig o'r lleoliad lle bu farw (o fewn 15 milltir i safle'r ymgymerwr angladdau fel arfer) i leoliad dan ofal yr ymgymerwr angladdau | £185 |
| Gofalu am yr ymadawedig cyn yr angladd mewn cyfleusterau priodol. Cedwir yr ymadawedig yng, Nghapel Gorrffwys Gorwel, Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan | £250 |
| Darparu arch briodol – wedi ei gwneud allan o argaen llwyfen | £495 |
| Y teulu a chyfeillion yn cael gweld yr ymadawedig, drwy apwyntiad gyda'r ymgymerwr angladdau (pan wneir cais gan y cwsmer i weld y corff) | Wedi ei gynnwys |
| Ar ddyddiad ac amser a gytunwch efo'r ymgymerwr angladdau, cludo'r ymadawedig yn uniongyrchol i'r fynwent neu'r amlosgfa a drefnwyd (o fewn 20 milltir i safle'r ymgymerwr angladdau fel arfer) mewn hers neu gerbyd arall addas. | £350 |
ANGLADD HEB EI FYNYCHU
| Dyma angladd lle cynhelir seremoni, digwyddiad neu wasanaeth ar gyfer teulu a ffrindiau er cof am yr ymadawedig, ond nid ydynt yn mynychu'r claddiad neu'r amlosgiad. Claddiad (costau'r ymgymerwr angladdau yn unig) |
£1250 |
| Amlosgiad (costau'r ymgymerwr angladdau a ffi'r amlosgiad) 2 | £1695 |
FFIOEDD SY'N RHAID I CHI EU TALU
| Ar gyfer angladd claddiad a Fynychir neu heb ei Fynychu, ffi'r claddiad.1 | £250 - £1500 |
| Yn yr ardal leol hon, cost nodweddiadol y ffi gladdu ar gyfer trigolion lleol yw: Ar gyfer bedd newydd, bydd angen i chi dalu am y plot hefyd; ar gyfer bedd sy'n bodoli'n barod gyda charreg fedd yn ei lle, efallai y bydd angen i chi dalu ffi tynnu/ailosod. Yn ychwanegol |
O £250 |
| Ar gyfer angladd sy'n amlosgiad a Fynychir y ffi amlosgiad. 2 | £1030 |
| Yn yr ardal leol hon, cost nodweddiadol amlosgiad ar gyfer trigolion lleol yw: | £1030 |
Trafodwch unrhyw anghenion crefyddol, credoau penodol a/neu ddiwylliannol sydd gennych gyda'r ymgymerwr angladdau.
1 Y ffi hon (a elwir weithiau'n ffi gladdu) yw'r gost ar gyfer cloddio a chau bedd newydd, neu am ailagor a chau bedd sy'n bodoli eisoes.
CYNNYRCH A GWASANAETHAU YCHWANEGOL YR YMGYMERWR ANGLADDAU
Efallai bydd yr ymgymerwr angladdau hwn yn gallu cynnig ystod o gynnyrch a gwasanaethau ychwanegol dewisol, neu i drefnu (ar eich rhan) bod rhywun arall yn eu darparu. Enghreifftiau'n cynnwys:
| Milltiroedd ychwanegol(pris fesul milltir) | £1.50 |
| Trosglwyddiadau ychwanegol o gorff yr ymadawedig (e.e. i'w gartref, i gapel neu eglwys ac ati) (pris fel trosglwyddiad) | £120 |
| Casglu a danfon llwch | Wedi ei gynnwys |
| Balmeiddio | £145 |
| Gweinyddwr yr angladd (e.e. offeiriad, gweinidog ac ati) | Rhoddir prisiau ar gais |
| Gwasanaethau a ddarperir y tu hwnt i oriau swyddfa arferol | Rhoddir prisiau ar gais |
Gall yr ymgymerwr angladdau roi rhestr lawn i chi o'r hyn sydd ar gael. Mae'n debygol o godi ffi am y cynnyrch a'r gwasanaethau ychwanegol hyn, felly efallai y dymunwch gymryd cyfrifoldeb dros rai ohonynt eich hunan, neu gallwch ddefnyddio cyflenwr gwahanol.

Ein teulu'n gofalu am eich teulu
Gwilym C. Price ei Fab a’i Ferched, Cartref Angladdol Y Gorwel, 32 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7DY
01570 422673